Merch o Dregŵyr, Abertawe, yw Lowri a fe aeth hi i Ysgol Gynradd Bryn y Môr ac Ysgolion Cyfun Gwyr ac Ystalyfera. Mae hi wedi graddio mewn Cerddoriaeth - gan arbenigo ar y llais - ac mae hi'n gantores dalentog yn ogystal â bod yn yn gerddor medrus sy'n chwarae'r ffidil, y fiola a'r piano. Pan yn ifanc, roedd hi'n aelod o Gôr Cenedlaethol Cymru a Cherddorfa Ieuenctid Cymru.
Ar ôl graddio ym Mhrifysgol Caerdydd, aeth Lowri i deithio am flwyddyn ac ar ôl dychwelyd cafodd waith yn dysgu cyn dechrau ar ei gyrfa cyflwyno gyda rhaglenni Planed Plant ac Uned 5. Yn ddiweddarach ymunodd â chwmni P.O.P.1 a bellach mae hi'n enwog fel un o gyd-gyflwynwyr y gyfres boblogaidd Ralïo+.
Fel merch sydd wrth ei bodd yn wynebu her, mae Lowri wedi cael ei magu ar adrenalin. Rhai o'i hoff ddiddordebau hamdden yw cymryd rhan mewn gweithgareddau fel sgïo oddi ar y piste, eirafyrddio, ôl-fyrddio, sgwba-deifio a llawer mwy.
Un o gampau mwyaf nodedig Lowri yw plymio i ddyfnderoedd y môr i weld gweddillion y Titanic ar gyfer rhaglen arbennig I S4C. Dim ond 80 o bobl sydd wedi gwneud hynny erioed. Fe'i rhestrwyd yn Dream Team Rygbi Menywod y Byd yn 1996 ac mae hi wedi rhedeg chwech marathon yn Llundain ac Efrog Newydd - ei hamser cyflymaf yw 3 awr ac 8 munud - ac mae hi hefyd wedi rhoi tro ar gystadleuaeth ffitrwydd Ironman.
Yn 2009, fe wynebodd ei hantur fwyaf ar gyfer cyfres newydd Ras yn Erbyn Amser (Cwmni Teledu POP1) , sef cystadlu mewn ras 222km ar draws Jyngl yr Amazon, am 7 diwrnod, a hynny'n hollol hunangynhaliol. Cofrestrodd 120, dim ond 55 orffennodd gyda Lowri’n 10fed ac y 3edd ferch. Enillodd y gyfres un o wobrau pwysicaf yr ŵyl a gafodd ei chynnal yn Stornoway, Ynys Lewis, Yr Alban.Mae'r gyfres bwerus yn dilyn ras epig yr athletwraig a’r cyflwynydd Lowri Morgan yn jyngl yr Amazon wedi ennill gwobr ‘Ysbryd yr Ŵyl’ yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd 2011.
Yn 2011 fe goncrodd Lowri Morgan yr Arctig ac ennill ras eithafol y 6633 Ultra yng nghanol y tywydd gaeafol ac amgylchiadau peryglus. Roedd camerâu’r gyfres Ras yn Erbyn Amser 2 yn yr Arctig yn dilyn bob cam o daith Lowri. Mae’r 6633 Ultra ymhlith y sialensiau anoddaf ar y blaned. Gan frwydro yn erbyn tymheredd oer a chreulon yr Arctig, roedd gofyn i’r cystadleuwyr gwthio’u cyrff i’r eithaf dros 350 o filltiroedd mewn wyth diwrnod. Roedd yn rhaid byw yn gwbl hunangynhaliol a thynnu sled yn llawn offer a bwyd ar hyd y cwrs.
Llwyddodd Lowri i gwblhau’r ras mewn 174 awr ag wyth munud a threuliodd y tridiau olaf ar ei phen ei hun yn brwydro yn erbyn yr elfennau a’r amgylchiadau oer. Lowri yw’r chweched person yn y byd i gwblhau’r ras.
Fe enillodd Ras yn Erbyn Amser ddwy wobr yng Nghwobrau BAFTA Cymru - Cyflwynydd Gorau a Chyfres Ffeithiol Orau. Cafodd hefyd ei henwebu am Waith Camera Gorau a Gwaith Golygu Gorau.